penelin

4.23.2006

Peru - Te Coca, Incas a Blisters

Helo o Peru! Heb flogio ers bod yn Peru felly dyma chydig o`r hanes hyd yn hyn. Nethon ni hedfan i Lima a chyrraedd tua hanner nos ar Ebrill y 11eg. Gethon ni fws o`r dref y diwrnod wedyn felly dim ond gallu treulio chydig oriau yn Lima ei hun. Ond gethon ni ddim y teimlad ein bod ni wedi colli llawer, dim lot i weld yna a ddim yn ddinas ddiddorol iawn yr olwg. Ag yn hynod o annoying oedd pob un taxi yn beepio arnan ni, a gan gysidro bo rhan fwyaf o`r ceir ar y ffordd yn daxis oedd hynna`n digwydd yn llawer rhy aml!

Nethon ni aros 2 noson wedyn yn Nazca sy`n bellach i lawr yr arfordir. Mewn ardal sych iawn yn llawn twyni tywod, ac felly`n boeth iawn. Ond tref ddigon diddorol a`r bobl yn glên yna. Ethon ni i weld y Nazca Lines, sef lluniau o anifeiliaid wedi eu gwneud gan y bobl oedd yn byw yna yn tua`r flwyddyn 600 a sydd ond yn gallu cael eu gweld o`r awyr. Felly gethon ni drip mewn awyren fach iawn a hedfan yn isel i weld y llinellau anhygoel, peofiad eitha rhyfedd gan bod gan neb esboniad go iawn o beth ydyn nhw a pam eu bod nhw yna. Ond oedd o`n hwyl, ag yn rywbeth cofiadwy i wneud ar ben-blwydd Gwawr yn 22!! Gath hi hefyd dorri ei gwallt gan ddyn wedi gwisgo fel dynes ag oedd ddim wir yn edrych ar ei gwallt o gwbl wrth ei dorri! Ag ethon ni allan am fwyd a wedyn treulio 14 awr ar fws - pen-blwydd hapus Gwawr!

Roedd y bws yn mynd a ni i Cuzco sydd yn dref hyfryd, ond yn eitha twristaidd. Dyma lle mae`r rhan fwyaf o bobl sy`n mynd i`r dref Inca Machu Picchu yn aros, felly cymysgedd wahanol o bobl. Nethon ni ddim gwneud yr Inca Trail gan bod rhaid bookio misoedd o flaen llaw, felly nethon ni benderfynu gwneud trek oedd yn anoddach ac yn hirach ond yn dal i orffen yn Machu Picchu - ddim yn siwr os oedd hyn yn beth call neu ddim! Ta waeth, oedd on loads o hwyl er bod Gwawr wedi cael 13 blister ac yn cerdded yn droednoeth erbyn y dwrnod olaf am fod ei thraed hi`n brifo gymaint! Oedd na dri grwp yn gwneud y trek ar yr un pryd felly tua 20 ohono ni, digon o bobl i siarad efo nhw! 5 oedd yn ein grwp ni, sef Gwawr a fi, 2 ferch o`r Ariannin a boi ifanc o Loegr. Nath pawb lwyddo i gyrraedd y pwynt uchaf, sef 4,600 metr, tua dau draean i fyny Salkantay (rhai wedi talu i fynd ar gefn ceffyl!) Fi oedd y trydydd i gyrraedd y top o´r
rhai oedd yn cerdded, ag oedd o`n struggle, ond oedd mynd lawr yr ochr arall yn galed ar y penliniau hefyd! Oedd campio allan yn hwyl hefyd, ond dim llawer o gwsg i`w gael! Gethon ni reid mewn truck hefyd - diddorol, aeth o a ni i`r hot springs oedd y yr ardal - grêt i gael bath ar ôl bod mor fudr am mor hir! Uchafbwynt arall oedd croesi afon fesul tri mewn rhyw fath o gawell fetal oedd yn cael ei dynnu gan bobl ar bob ochr - lluniau ar flickr yn fuan. Oedden ni`n falch o gyrraedd yr hostel yn Aguas Cliente, sef y dref agosaf at Machu Picchu, sy`n bodoli ond oherwydd twristiaid cyn belled ag on i`n weld! Wedyn codi`n gynnar y bore wedyn er mwyn gweld y dref cyn i`r holl dwristiaid gyrraedd. Gwerth gweld y lle yn bendant, hollol anhygoel a diddorol iawn. Wedyn nôl i Cuzco er mwyn mynd allan i ddathlu ein bod ni gyd dal yn fyw, yn hytrach na cael noson dda o gwsg a fyddai falle wedi bod yn syniad gwell!

4.14.2006

Hwyl fawr Mexico



Wel, 3 dwrnod yn ôl daeth hi`n amser i ffarwelio efo Mexico. Eitha trist gan bo ni wedi mwynhau ein hun gymaint a wedi cyfarfod lot o bobl ddiddorol, ond eitha cyffrous i feddwl am be fysai yn ein disgwyl yn Peru (tywydd yr un mor boeth!) Nethon ni dreulio 2 ddwrnod yn Acapulco, sef ardal glan-y-môr eitha poblogaidd yn Ne Mexico. Ar ôl trafferth yn ffeindio`r hostel am 10 o`r gloch y nos oedd hi`n grêt gweld bod na bwll nofio yna felly mewn a ni am swim yn y tywyllwch! Oedd yr hostel yn ardal y Mecsianwyr felly aethon ni i´r traeth hwnnw y dwrnod wedyn. Dim pobl wyn i weld o gwmpas felly tynnu dipyn o sylw ag ar ôl cael ein hasslo am ryw 10 munud, Manuela a fi yn cytuno i gael braidio ein gwallt - wel, hanner ein gwallt! Ewch i weld yn lluniau i a rhoi eich barn - dwi`n meddwl bo nhw`n gwneud i`n nhalcen i edrych braidd yn fawr felly falle nai dynnu nhw allan yn fuan, ond ma nhw`n handi ar y funud achos sdim rhaid i fi olchi`ng ngwallt!

Y dwrnod canlynol ethon ni i draeth twristiaid oedd yn llawer mwy ond yr un mor brysur. Y dref braidd yn afiach - llwyth o siopau American a Mc Donalds a.y.y.b felly nethon ni ddim treulio gormod o amser yna. Cael ein perswadio i gerdded dipyn i ryw flea market guddiedig gan Fecsican clêl o´r enw Arturo a ffeindio chydig o bethau bach i brynu. Manuela yn prynu pâr o cowboy boots melyn wedi eu gwneud o groen alligator! A bargeinio i gal nhw am tua hanner y pris cychwynnol, sef 1,400 peso, sef tua 70 punt! Aethon ni fyy yn uwch na`r dref wedyn i weld pobl yn ´cliff-jumping´- ma`r ardal yn eitha enwog am hyn. Dipyn o bobl wedi ymgasglu, ond oedd o ddim yn sbeshal - yr haul yn machlud yn lot mwy arbennig!

Ag felly ar ôl taith 6 awr ar y bws yn ôl i Ddinas Mecsico a chymryd y metro at y maes awyr, oedd yn dipyn o sialens efo`r bagiau mawr a 3 newid gorsaf metro, daeth ein taith ym Mecsico i ben a ffwrdd a ni i Peru!

4.10.2006

Wythnos wedi bod!


Methu coelio mai dim ond wythnos i ddoe oedden ni´n hedfan allan! Teimlo fel llawer mwy ers oedden ni adre, ond eto ma´r wythnos wedi mynd yn sydyn iawn a ni wedi llwyddo i neud llawer!

Da ni yn Acapulco ar arfordir y De erbyn hyn. Er bo Dinas Mexico yn ddiddorol iawn a llawn amrywiaeth, oedd na gymaint o bobl yna a´r aer yn llawn llygredd, mae´n braf iawn gadael! Rhai o´r uchafbwyntiau oedd y Templo Mayor - sef gweddillion teml fawreddog yr Aztecs a gafodd ei hail adeiladu 7 gwaith gan bobloedd gwahanol. Mae reit ynghanol y ddinas yn yr awyr agored felly braidd yn swreal cerdded o amgylch y sylfeini gan glywed synnau´r ddinas yn y pellter! Hefyd, mae´n werth ymweld â´r Amgueddfa Anthropoleg - llawer o wybodaeth am yr holl bobl a llwythi sydd wedi ac sydd yn byw yn Mexico. Hynod o ddiddorol ond braidd gormod o wybodaeth, sa wedi cymryd dwrnod cyfan i ddarllen popeth yna!

Tua awr i´r Gogledd o Ddinas Mexico mae pyramids mawreddog y Teotihuacan a adaeiladwyd gan bobl o´r un enw tua 300bc ag oedd ar un adeg yn gartre i dros 150,000 o bobl. Mae nhw wir werth eu gweld - ag oedd hyd yn oed yr holl bobl leol yn trio pwsio chi i brynu ryw geriach amrywiol ddim yn effeithio ar y profiad! Er bod hi braidd yn boeth, nethon ni lwyddo i gyrraedd top pyramid yr haul - sef yr un mwyaf! A wedyn nethon ni ddarganfod bwyty rili cwl mewn ogof, yn y pentre tu allan i´r ddinas - ag erbyn i ni gerdded nôl drwy´r pyramids oedden nhw´n hollol wag, dim ond ni oedd yna - chydig yn spooky!

Ok, oedd y bwyty yma i weld yn cwl ar y pryd, ag nes i ond cal rhyw fath o blatiad eitha bach o tacos blasus iawn. Ond drwy´r noson honno, on i yn sâl iawn! Ai ddim i fewn i fanylion ond gair i gall - peidiwch a byta pork yn Mexico - wel, mae´n debyg fod o o safon gwell yn y de! Ta waeth - nath y salwch olygu bo fi yn colli noson o clubbio yn Ninas Mexico - on i braidd yn gytud, ond teimlo lot gwell pan nath Gwawr ddisgrifio´r clwb fel "tebyg i´r Octagon"!!!

Felly er bo ni´n falch o adael y ddinas, mae 5 dwrnod yna yn jest digon, nethon ni yn bendant fwynhau. Teimlo yn ddigon saff yno yn rhan fwyaf o´r ardaloedd. Y Metro yn wych - gallu mynd i unrhyw le o gwbl yn y ddinas am tua 10 ceiniog! A rhwng 5 a 10 y nos carriages arbennig ar gyfer merched. Ond, dwi ddim yn meddwl bo fi wedi bod yn unrhyw le efo cweit gymaint o bobl - pobl ymhobman bron. Ma nhw yn glên yna, yn trio gwerthu bob dim dan haul i chi, a´r creeps yn y lleiafrif. Ond y mwya gwyn ydy rhywun, y mwya o sylw ma nhw´n tynnu - ag allwch chi ddim cal lot mwy gwyn na Gwawr a fi! O, ag oedd yr hostel yn grêt - Hostel Amigo os di rhywun yn ymweld â´r ddinas - staff rili clên a lle digon cymdeithasol efo lot o deithwyr o wledydd gwahanol.

Mwy o luniau a blog Gwawr ar y links. A fyddai nôl yn fuan, ella yn frown i gyd! Wel, ok, ella ddim, da ni ddim yn disgwyl gwyrthiau!!

4.03.2006

Dinas Mexico!

Wel, wedi cyrraedd o'r diwedd! Ar ôl hedfan am 11 awr o Heathrow - sypreis bach neis oedd yn bod ni yn hedfan dros Gymru fach, a hefyd Aberystwyth - oedd na enw Sbaeneg am Aber hefyd ond dwi ddim yn cofio be oedd o yn anffodus! Ta waeth - flight lyfli efo British Airways a sgrin o flaen bob sêt, a bwyd neis - impressive iawn! Wedyn cyrraedd y maes awyr a chal taxi i'r hostel sydd yn lyfli. Er bo ni mewn stafell sy'n cysgu 10 dim ond 3 ohonom ni sydd yna ar y funud. Ma na common room efo teledu mawr a loads o lyfrau a da ni'n gallu mynd ar y wê yma am ddim! A ma na far neis yr olwg yma, ond oedden ni wedi blino gormod efo jet lag i fynd yna neithiwr.

Mae'n debyg mai Dinas Mexico ydy'r brifddinas uchaf yn y byd (siwr bo fi wedi darllen hynna yn rwle - ymddiheuriadau os dio'n anghywir!) felly y cyngor yw i beidio gwneud dim byd sy'n gofyn am ormod o egni yn eich dyddiau cyntaf yno er mwyn dod i arfer efo'r uchder. Dwi'n teimlo'n iawn ar y funud a ninnau wedi bod yma am agos i 20 awr, ond dydy Gwawr na'r Almaenes sy'n rhannu stafell efo ni ddim mor lwcus.

Felly wedi bod yn cerdded rownd y ddinas chydig heddiw (wel, am agos i 5 awr ma'n siwr) - mynd ar goll chydig bach ond cyrraedd yn ôl yn saff, a wedi prynu map fel bo ni'n gallu dod i nabod y lle yn well. Dinas eithaf amrywiol - wedi bod yn farchnad fwya dwi erioed wedi bod ynddi, ar hyd strydoedd bach oedd yn para am byth - hollol ddi-ddiwedd! Gwerthu pob math o bethau, llawer o fwyd, nethon ni ond mentro efo rhyw fath o greision blasus a sôs eitha spicy. Pobl yn edrych yn eitha tlawd yno. Ond mewn ardaloedd eraill, dynion wedi gwisgo yn weddol smart ag yn ceisio gwerthu dvd's, ffonau a pethau technolegol eraill ar ochr y stryd. Llwythi o siopau dillad a sgidiau ar lawer o'r prif strydoedd, ond nethon ni ddim lwyddo i ddod ar draws archfarchnad neu hyd yn oed siop gornel fach yn gwerthu dipyn o fwyd! Ar ôl darllen bod pobl yn gyrru yn wyllt yma, dydy hi ddim mor ddrwg ag on i'n feddwl, ond ma na yn bendant or-ddefnydd o'r corn - bob awr o'r dydd a'r nos!

Am ryw reswm, mae'r amgueddfeydd wedi cau yma ar ddydd Llun felly nethon ni neud nodyn o ambell un fysai'n apelio. Yr ardal hanesyddol neu'r 'Centro Historico' (dwin meddwl mai fel na ma sillafu fo!) sydd i weld y rhan fwyaf diddorol ag yn lwcus dyna lle ma'r hostel, felly gawn ni ddigon o amser i edrych o gwmpas. Yn y cyfamser, rhaid ymarfer dipyn ar y Sbaeneg! Sori, bod na ddim lluniau - tro nesa!