penelin

6.21.2006

Patagonia!

Wps, dwi wedi colli hi chydig ar y blog ma eto! Sori fawr! Ta waeth, dyma chydig o hanes Patagonia.

Gethon ni fws lawr i Puerto Madryn, lle nath y Cymry cyntaf lanio a byw mewn ogofeydd wrth y môr. Welson ni y cerflun o'r Fam Gymreigyn wynebu'r tir ac yn cefnu ar y môr a Chymru! A'r cerflun o'r Indiad, am eu bod wedi bod yn gymaint o ffrind i'r Cymry a setlodd yma. Tywydd braf iawn i feddwl bod hi'n gychwyn y gaeaf ac ar ein trip o amgylch Penilnsula Valdes nethon ni weld llewod môr, elephant seals a morfilod! Newydd gyrraedd oedd y morfilod ag oedden ni yn lwcus iawn i'w gweld nhw - welson ni 2 yn nofio wir yn agos at y lan - anhygoel! Ag mi welson ni un pengwin bach yn nofio, oedden ni yn lwcus i weld hwn hefyd achos bo'r pengwins i gyd wedi gadael, mae'n rhaid bo hwn wedi colli ei ffordd! Er bo fi di bod yna o'r blaen a'r tro yna welson ni lwyth o bengwins oedd o dal wir yn gyffrous!!

Wedyn ymlaen i Drelew sy'n dref eitha mawr, ond yn bendant oddi ar y 'tourist trail'. Pawb yn gofyn o lle oedden ni yn dod a wedyn deud bod eu hen nain neu taid nhw o Gymru neu efo enw Cymraeg, neu eu bod nhw yn nabod rhywun efo enw Cymraeg, neu yn byw ar stryd efo enw Cymraeg! Ond nethon ni ddim cyfarfod neb yn siarad Cymraeg tan i ni gyrraedd y Gaiman ag aros yng Nghwesty Tywi sy'n lle hyfryd, a dim ond ni oedd yna felly gethon ni'r lle i ni ein hun! Oedd pawb wir yn gyfeillgar a lot o'r hen bobl yn siarad Cymraeg hollol berffaith ond heb fod yng Nghymru o gwbl! Nethon ni gyfarfod Mari, yr athrawes Gymraeg o Gymru sy'n gweithio yna. Oedd hi i weld wir yn mwynhau ei hun ag yn deud bod hi erioed wedi siarad gymaint o Gymraeg a phrin wedi gorfod dysgu Sbaeneg! Gethon ni fwyd yn un o'r tai te yna oedd yn wych - Gwawr yn falch iawn o gael te 'go iawn' unwaith eto, a gethon ni gymaint o gacennau oedden ni prin yn gallu symud drwy'r pnawn! Efo help Nivea, gwraig hynod o gyfeillgar o Ddolavon, nethon ni lwyddo i weld bedd un o berthynasau Nain Gwawr, a mynd i weld un o berthynasau fy Nain i - Ieuan. Mae'n o'n byw ar fferm fach rhwng y Gaiman a Dolavon a roed bod yn ei dy fo fel bod ar ffermdy nôl yng Nghymru, oedd o hyd yn oed yn gwrando ar ryw noson lawen ar y radio! A gethon ni ddarn o gacen a chwrw Quilmes ganddo fo i de! Gethon ni fwyd hefyd efo teuluoedd Gladys a Glenda (chwiorydd gwraig oedd Gwawr wedi gyfarfod yng Nghymru) - oedden nhw yn gyfeillgar iawn ag yn hynod o excited ynglyn a'r gêm rygbi yn Puerto Madryn ar y penwythnos. (Dwi'n siwr oedden nhw hyd yn oed yn fwy hapus pan nath yr Ariannin ennill!) Rhywbeth arall ma nhw'n edrych ymlaen yn arw ato ydy Bryn Fôn yn mynd nôl allan yna yn mis Hydref i ffilmio feature length film yna! Coming soon to a theatre near you!

Ar ôl cael amser gwych yn y Gaiman ethon ni ar draws y dyffryn i Esquel. Taith ddigon diddorol ar y bws wrth i'r bus drivers force feedio mate i ni (te ma PAWB yn yr Ariannin yn yfed - ti'n gymryd sip allan o'r straw metal a wedyn pasio fo ymlaen - mae nhw'n mynd rownd efo fflasks yn llawn dwr poeth i ychwanegu ato, ond oedd gan rhain stôf campio ar y bws!) Dydyn Sbaeneg ni ddim yn rhy wael erbyn hyn felly oedden ni yn dallt yn iawn pan oedden nhw'n gofyn i ni fynd allan i ddawnsio efo nhw ond yn smalio chwarae ffwl er mwyn osgoi deud na! Ond pwy ddath i helpu efo'r cyfieithu ond rhyw hen ffarmwr clên o'r enw Vincent oedd yn siarad Cymraeg glân gloyw ond erioed wedi bod i' Gymry. Mae'n byw ar fferm yn Nhrevelin, ag os dych chi'n gwylio Cefn Gwlad ma siwr bo chi yn ei nabod o achos mae o wedi bod arno fo llwyth ag oedd on deud wrtha ni bod o'n dipyn o celebrity a'i fod o'n cael ei spottio gan Gymry yn ymweld a Threvelin! Classic! O gan bo fi yn dod o Gaerdydd oedd on meddwl fyswn i yn nabod yr actor Matthew Rhys, felly dwi fod i gofio ato fo ag atgoffa fo bod rhaid iddo fo fynd i aros efo Vincent ar ei fferm!

Un o'r pethau cynta nethon ni yn Esquel oedd mynd i noson Gymraeg yn yr ysgol yno, noson Gyri Gymreig! Diddorol iawn, yn enwedig am bo bron neb yno wedi trio cyri o'r blaen! Chwarae teg i Claire yr athrawes yno am gwcio'r holl gyri i bawb - blasus iawn! Dipyn yn siarad Cymraeg yna, nifer fawr yn dysgu ag yn hynod o frwdrfydig ynglyn a'r iaith ag yn gystadleuol iawn ynglyn ag ennill baner Cymru yn y cwis! (oedd i gyd am gwpan y byd felly yn amlwg oedd Gwawr a fi yn gallu ateb pob cwestiwn!) Gethon ni drip bach i Drevelin hefyd sy'n le hyfryd a don i ddim yn cofio bod yno rhyw lawer pan ddes i 5 mlynedd yn ôl. Gweld yr ysgol fach ciwt yna lle ma Catrin, athrawes wirfoddol yn aros am fis. Ag i goroni ein hamser hyfryd ni wrth yr Andes, nath hi fwrw eira ar ein bore ola ni felly oedd pobman yn wyn - grêt!

Nôl yn fuan efo hanes Bariloche, Mendoza a Santiago.

1 Comments:

Anonymous Anonymous said...

Swnio'n hyfryd. Bysa fo'n gret sa chdi yn nabod Mathew Rhys!! Mwynhewch Seland Newydd. Mair xx

7:53 am  

Post a Comment

<< Home