Ynys y De

Dyma'r olygfa oedd o'n blaen ni bore ma! Waw! Da ni yn Lake Wanaka, wrth ymyl Queenstown yn Ynys y De, Seland Newydd. Extra cyffrous achos bo nhw wedi ffilmio LOTR yma (deud y gwir, ma hynna'n wir am ran fwyaf o Seland Newydd!) Tywydd wedi bod yn wych y dyddie diwethaf ar ol cyfnod o law diflas. Nethon ni gerdded fyny Glacier yn y glaw oedd yn hwyl ond oedd pawb yn hollol wlyb at eu croen! Wedi bod yn teithio ar fysys hyd yn hyn, ond yn cael campervan dydd Llun - wohoo!! Di updatio'r lluniau chydig bach, nai drio rhoi rhai o bobman hyd yn hyn fyny dros y penwythnos (dwi wedi tynnu tua 500 erbyn hyn felly mae'n broses anodd o ddewis a dethol, gan bo fi'n siwr bo chi ddim isio gweld pob un llun diflas!) Hwyl am y tro!
3 Comments:
Hi Elin - er gwybodaeth mae Richard wedi cael y llawdriniaeth o'r diwedd. Mae e'n iawn.
Helen x
Elin, its Beth. You enjoyin?? Jack's son is still in New Zealand, u shud fone him!!! Am still in the cynulliad, hehe!! Missin our ova the wall chats, lol!!! Cariad Beth x x x
Hia Helen. Falch o glywed bo Richard yn iawn - oes gen ti gyfeiriad e-bost gatre iddo? Wyt ti dal yn gweithio yn y Cynulliad neu wedi symud ymlaen?!
Post a Comment
<< Home