penelin

8.22.2006

Charlie, Singapore a Kuala Lumpur

Helo o Asia! Rydyn ni bellach yn Kuala Lumpur yn y gwres llethol, ond newydd gael cawod lyfli o law - nethon ni sefyll yna am chydig funudau yn cwlio lawr tra roedd pawb arall yn mynd i gysgodi, dwi'n siwr oedden ni'n edrych chydig bach yn nyts! Yn ffodus, da ni wedi cael air conditioning ymhob hostel hyd yn hyn - gobeithio fydd hyn yn parhau!

Gyrhaeddon ni Singpore o Awstralia nos Sadwrn ag aros yn y maes awyr ar gyfer Charlie, merch o Birmingham nethon ni gyfarfod yn Seland Newydd sydd wedi dod i deithio efo ni yn Asia. Oedden ni'n cael ein galw yn 'Team Wales' ar draws Seland Newydd ag Awstralia, dwi'n meddwl yn bennaf achos bo pawb yn cael trafferth ynganu enw Gwawr - erioed wedi sylweddoli fod o mor anodd a hynny o'r blaen! A gan fod Charlie wastad efo ni oedd hi'n 'honourary member' o 'team wales' a da ni wedi dysgu dipyn o Gymraeg iddi hi erbyn hyn hefyd! Mae ganddi hi flog efo lluniau o Seland Newydd ag Asia yn fuan os oes diddordeb gan rywun : http://charliedixpix.blogspot.com/

O, a newyddion chydig bach mwy difrifol - nath na griw o fwnciod bron ag ymosod arnon ni heddiw! Oedden ni yn cerdded mewn gerddi hamddenol a ddethon ni ar draws y boi Almaeneg siaradus ma nath ddeud fod na gwpwl o fwnciod i'w gweld yn bellach i lawr a rhoi ffrwythau i ni i roi iddyn nhw. Wel, aeth hi bach yn fler pan ddaeth na tua dwsin o fwncis ar ein hol ni - oedden nhw yn fach iawn ond yn fileinig iawn! Ag oedd na un gweddol fawr oedd yn trio lladd y rhai bach os oedden nhw yn mynd a'r bwyd! Oedden nhw yn hynod o hy, ag ethon ni ona yn reit sydyn ar ol i ni redeg allan o ffrwythau ag ar ol i Charlie gael ei dychryn efo flashbacks o pan nath na lama redeg ar ei hol hi a thrio ymosod arni pan oedd hi'n iau!! Lluniau o'r mwncis bach 'ciwt' yn fuan!!

8.16.2006

Gadael Awstralia

Helo! Gobeithio bod pawb aeth i'r Steddfod wedi cael amser da iawn - y Steddfod gynta i fi golli ers oes :-( A dwi'n gwbod bod hi braidd yn hwyr, ond i'r rheiny nath raddio llongyfarchiadau i chi gyd (dwi ddim yn cofio os nes i e-bostio pawb)

Wel, mae'n amser ni yn Awstralia bron a dod i ben a 'da ni wedi llwyddo i neud lot mewn 3 wythnos a hanner. Ethon ni ar drip mewn four wheel drive ar ynys dywod fwya'r byd (mae'n debyg!) - Fraser Island. 11 ohono ni yn yr un fan ag ethon ni yn styc yn y tywod 5 gwaith a llwyddo i dorri un pabell! Ond oedd o'n lot o hwyl er gwaetha'r ffaith bo ni heb weld dim siarcod :-( Mae'n rhyfedd fel mae na lawer o deithwyr o'r un genedl mewn un gwlad - yn Seland Newydd, Saeson oedd y mwyafrif; Israelis yn Bolivia; ac yn Awstralia, Gwyddelod ydy'r mwyafrif - wir, mae'n siwr fod na gymaint o Wyddelod a sydd na o Aussies!!

Ethon ni hefyd i hwylio a deifio ar y Great Barrier Reef oedd yn wych - mor lliwgar, welson ni lwyth o bysgod, ond dim jellyfish diolch byth! Bendant eisiau gwneud mwy o ddeifio - mae'n anhygoel bod ar waelod y mor, fel bod mewn byd arall.

Ta waeth, ni yn Cairns erbyn hyn ag yn hedfan i Singapore ddydd Sadwrn. Wedi gwario ein holl budget ar gyfer Awstralia ag yn cychwyn cael rywbeth sy'n ymdebygu i 'tan' - wir, on i methu coelio'r peth! Ond wrth gwrs, ma wyneb Gwawr a fi yn bla o freckles! O, wel!




8.04.2006

Lluniau!!

Jest chydig bach o luniau o Awstralia - nai roi nhw ar flickr yn fuan. A rhoi gweddill rhai Seland Newydd fyny hefyd! Jest i ddathlu bo'r camera yn gweithio yn iawn erbyn hyn!!

8.02.2006

Awstralia!

Helo o Awstralia! Da ni wedi bod yma ers rhyw wythnos erbyn hyn ac yn cael lot o hwyl. Wedi bod i Melbourne a Sydney ac ar draethau arfordir y de - braf iawn ond ddim mor boeth ag yma yn y Gogledd. Rhaid i fi siomi'r Neighbours ffans ohono chi (genod/merched May St a Nain yn bennaf!), gethon ni ddim amser i fynd i weld y set sydd jest tu allan i Melbourne. Cwpwl o nosweithiau cyn i ni gyrraedd oedd na ryw barti Neighbours ag yn bresennol oedd Libby a Karl Kennedy a'i gitar - gytud bo ni wedi colli hwnna! Fydd jest raid i fi gofio nôl at yr amser bythgofiadwy pan nath Catrin P a fi gyfarfod Joe Scully yn May Ball Aberystwyth - dyddie da!

Oedd Sydney yn grêt hefyd - yr opera house yr un mor impressive a fasech chi yn meddwl. Llwythi o dwristiad Japanese yna hefyd - oedden ni yn teimlo chydig allan o le! W, ia, welson ni kangaroo a koala bears pan nethon rentu car a gyrru ar hyd arfordir y de - cyffrous iawn! Genai luniau o'r koalas nai roi fyny yn fuan. A tra dwi'n cofio, welson ni lwyth o dolffins yn Seland Newydd hefyd - ciwt! Dipyn gwahanol i Seland Newydd yma o ran y tirlun a'r tywydd. Y bobl yr un mor laid-back a jokey, ond llawer mwy o bobl ymhobman, teimlo fel bo Sydney a Melbourne efo bron yr un faint o bobl a sy'n Seland Newydd i gyd!

Cael dwrnod gwych heddiw - yr haul yn bendant wedi dod allan i ddathlu fy mhen-blwydd i! Yn Byron Bay, tref fach glan-y-môr hippy-aidd iawn. Traeth lyfli ac eitha gwag felly newydd fod yn torheulo bore ma. Mynd ar y bws am gwpwl o oriau pnawn ma i dref arall ar lan-y-môr - Surfer's Paradise. Wnai roi lluniau fyny heno gobeithio!