penelin

7.14.2006

Ynys y De


Dyma'r olygfa oedd o'n blaen ni bore ma! Waw! Da ni yn Lake Wanaka, wrth ymyl Queenstown yn Ynys y De, Seland Newydd. Extra cyffrous achos bo nhw wedi ffilmio LOTR yma (deud y gwir, ma hynna'n wir am ran fwyaf o Seland Newydd!) Tywydd wedi bod yn wych y dyddie diwethaf ar ol cyfnod o law diflas. Nethon ni gerdded fyny Glacier yn y glaw oedd yn hwyl ond oedd pawb yn hollol wlyb at eu croen! Wedi bod yn teithio ar fysys hyd yn hyn, ond yn cael campervan dydd Llun - wohoo!! Di updatio'r lluniau chydig bach, nai drio rhoi rhai o bobman hyd yn hyn fyny dros y penwythnos (dwi wedi tynnu tua 500 erbyn hyn felly mae'n broses anodd o ddewis a dethol, gan bo fi'n siwr bo chi ddim isio gweld pob un llun diflas!) Hwyl am y tro!

7.03.2006

Seland Newydd!!

'Dy ni 'di bod yma ers tua pythefnos erbyn hyn, ag ymddiheuriadau am beidio blogio, ond ma na jest gymaint o bethau i neud yma. Ond ma mae hi'n pistyllio bwrw glaw heddiw am y dwrnod cyntaf ers y dwrnod gyrhaeddom ni. Mewn tref o tua 50,000 o bobl ar dop Ynys y De - Nelson. Sydd weithiau'n cael ei galw yn 'Sunny Nelson' am bo hi mor braf, ag wrth siarad efo rhyw foi mewn siop ddoe sydd di symud yma ers blwyddyn a hanner 'di o ond di gweld 3 dwrnod o law yma - typical! Mae fod yn neis fory beth bynnag!

Ta waeth, er bo hi'n gaeaf yma ma hi wedi bod yn braf iawn, er ddim cweit digon braf i fentro i'r môr. Fuon ni ar 'Ninety Mile Beach' reit yng Nghogledd y wlad sydd fwy fel chwech deg milltir, ond oedd o wir yn drist achos oedd na forfil wedi cael ei adael ar ôl gan y llanw a bron a marw ar y traeth :-( a doedd na ddim byd oedden ni yn gallu neud. 'Da ni hefyd wedi bod yn kayakio, ogofeuo efo glow worms ac yn awyr-ddeifio (sky-diving?!) Waw, oedd o'n anhygoel, dim ond 45 eiliad o 'free falling' sef jest syrthio o'r awyren cyn i'r parachute agor - oedd yn hen ddigon cos o'n i'n teimlo fel bo fi methu anadlu. Ond oedd o'n wych pan oedd y parachute yn agor achos o'n i'n gallu gweld bob dim islaw a gwerthawrogi'r golygfeydd!

Er yn anffodus gethon ni ddim amser i fynd i weld Hobbiton o Lord of the Rings (a mae'n blincyn drud achos mae ar fferm breifat) nethon ni hikio o dan Mount Doom ag aros mewn hotel lle oedden ni'n edrych allan drwy'r ffenest a'i weld o! Lle braf iawn, ag oedd yr hotel wedi gneud camgymeriad felly oedd na ddim digon o le i ni yn y stafelloedd backpackers felly gethon ni stafell hiwj en suite efo teledu a frij a coffi a bob math o hyfryd bethau erill - mor cwl nethon ni aros am 3 noson! Ond, doedd na ddim tân yn chwistrellu allan o Mount Doom yn anffodus, ag roedd o'n wyn efo eira, ond dal yn edrych yn anhygoel. A nethon ni drio 'chydig o snow-boarding yma hefyd! Erioed wedi syrthio ar fy mhen ôl gymaint o weithiau, ond oedd o'n lot o hwyl!

Beth arall sydd i'w ddweud - ma Wellington y brifddinas yn neis iawn, ac Auckland, y ddinas fwyaf yn weddol, ond dydy lot o bobl ddim yn hoff o'r lle. Does na ddim llawer o ddinasoedd mawr wedyn heblaw am y ddwy yna, felly lot o lefydd gwledig - dipyn fel Cymru, yn enwedig efo'r holl ddefaid! Mae pob man i weld yn lân a ma'r bobl yn hynod o ofalus efo'r amgylchedd ac edrych ar ôl eu tirlun. Mae'r Maoris, sef y bobl oedd yn byw yma cyn yr Ewropeaid ac mae'n ddiddorol iawn cael gwybod am eu hanes. Lot o barch tuag atyn nhw erbyn hyn ar ôl cael eu trin yn wael yn y gorffennol, ag er mae ond tua 50,000 sy'n gallu siarad Maori, mae gennyn nhw sianel deledu eu hun sydd efo dipyn mwy oriau o Maori na sydd gan blincyn S4C o Gymraeg! O, a nethon ni ddysgu sut ma neud yr haka - wel, yr haka benywaidd sydd ddim cweit mor fygythiol ag un y dynion!

Nethon ni groesi ddoe i Ynys y De sydd yn ôl llwyth o bobl yn hyd yn oed gwell nag Ynys y Gogledd - anodd i'w gredu!