penelin

6.29.2006

Diwedd y daith yn Ne America

Ar ôl ymweld â'r Cymry ym Mhatagonia, dim ond 'chydig llai na phythefnos oedd gennon ni ar ôl yn Ne America. Ethon ni i dref o'r enw Bariloche sy'n ardal y llynnoedd yn yr Ariannin ag yn agos at y ffin gyda Chile. Lle prydferth iawn efo lot o lynnoedd a lo t o eira, golygfeydd gwych, yn enwedig pan ethon ni i ferlota o amgylch un o'r llynnoedd. Ond yn anffodus nath hi fwrw glaw yn drwm am tua tri diwrnod tra oedden ni yna, a mae'n debyg fod pethau'n waeth yn Chile felly yn hytrach na chroesi'r ffin yno, nethon ni aros yn yr Ariannin a theithio i fyny.

Aros yn Mendoza wedyn am chydig ddyddiau. Dyna lle mae 70% o win yr Ariannin yn cael ei gynhyrchu felly rhaid oedd ymweld â'r gwinllannoedd, a hynny ar gefn beic! Oedden ni yn teithio efo Albanwr, Geordie a Ffrancwr erbyn hyn a nath 2 o rheiny benderfynu fysen nhw'n trio reidio tandem o amgylch y gwinllannoedd - doniol iawn! Er, Gwawr a fi nath reidio arno fo rhan fwyaf achos doedden nhw ddim yn rhy saff arno fo - typical! Nethon ni dipyn o ddringo, abseilio a mynd i byllau thermal yn y mynyddoedd hefyd, lot o hwyl. A thywydd llawer gwell nag yn y de.

I Santiago wedyn, ac roedd y daith yno o Mendoza drwy'r mynyddoedd yn anhygoel - mynyddoedd anferth gwyn ar bob ochr i ni! Ond roedd hi'n oer iawn, a Fabien druan (y Ffrancwr oedd yn dal i deithio efo ni) yn gwisgo shorts wrth groesi'r border - pawb yn meddwl bo hyn yn ddoniol iawn ag yn meddwl ei fod o'n Americanwr, a gan nad oedd o yn deall dim Sbaeneg na llawer o Saesneg oedd o jest yn gwenu a nodio ar bawb! Dim problem wrth groesi'r border, er roedden ni'n eitha trist i adael yr Ariannin. Wedi dod i hoffi'r wlad yn fawr, bwyd neis iawn yn rhad iawn! Ag, ron i yn arbennig o drist o adael gwlad Dulce de Leche - os dy chi di bod yna newch chi ddeall be dwi'n feddwl - mae fel saws toffi sy'n cael ei ddefnyddio fel jam a ma nhw yn ei roi o ar bob un peth bron, blasus iawn! Mae'n debyg bod na siop yn gwerthu fo yng Nghanolbarth Cymru yn rhywle, fydd rhaid i fi fynd i chwilio!

Roedd Santiago braidd yn siomedig. Ar ôl gweld golygfeydd mor fawreddog yn Chile cyn cyrraedd y brifddinas, roedden ni'n disgwyl gweld llawer o'r mynyddoedd yno gan bo'r ddinas wedi ei hamgylchynu gan fynyddoedd mawr oedd erbyn hynny yn eira i gyd. Ond roedd na jest gymaint o smog yno, doedden ni methu gweld dim byd. Heblaw am hynny, mae hi'n ddinas eitha pleserus a datblygedig. Ond ma na gyplau ymhobman, a rhai ardaloedd yn arbennig o rhamantus, fel nath y 3 ohonon ni ddarganfod yn rhyw hwyr - awkward iawn!

Ar ôl tua 3 dwrnod yn Santiago, oedden ni yn pacio'n bagiau am be oedd yn teimlo fel y canfed tro ar gyfer hedfan i Auckland yn Seland Newydd, cyffrous iawn! Y 2 ohonon ni yn edrych mlaen yn fawr i gyrraedd y wlad, a fi yn arbennig yn edrych ymlaen at y daith yn yr awyren o 13 awr, er dwi'n meddwl nes i gysgu 'chydig gormod achos nes i redeg allan o amser i neud yr holl bethau cwl sydd i neud ar awyren (swnio'n sad dwi'n gwbod, ond am ryw reswm dwi wir yn mwynhau bod ar awyren neu fws neu rwbeth - rhyfedd!) Ta waeth, fyddai nôl yn fuan efo hanes yr wthnos gyntaf yn Seland Newydd!! (Dim mynedd i ddarllen dros hwn sori felly anwybyddwch umrhyw gamgymeriadau!)

0 Comments:

Post a Comment

<< Home