penelin

8.02.2006

Awstralia!

Helo o Awstralia! Da ni wedi bod yma ers rhyw wythnos erbyn hyn ac yn cael lot o hwyl. Wedi bod i Melbourne a Sydney ac ar draethau arfordir y de - braf iawn ond ddim mor boeth ag yma yn y Gogledd. Rhaid i fi siomi'r Neighbours ffans ohono chi (genod/merched May St a Nain yn bennaf!), gethon ni ddim amser i fynd i weld y set sydd jest tu allan i Melbourne. Cwpwl o nosweithiau cyn i ni gyrraedd oedd na ryw barti Neighbours ag yn bresennol oedd Libby a Karl Kennedy a'i gitar - gytud bo ni wedi colli hwnna! Fydd jest raid i fi gofio nôl at yr amser bythgofiadwy pan nath Catrin P a fi gyfarfod Joe Scully yn May Ball Aberystwyth - dyddie da!

Oedd Sydney yn grêt hefyd - yr opera house yr un mor impressive a fasech chi yn meddwl. Llwythi o dwristiad Japanese yna hefyd - oedden ni yn teimlo chydig allan o le! W, ia, welson ni kangaroo a koala bears pan nethon rentu car a gyrru ar hyd arfordir y de - cyffrous iawn! Genai luniau o'r koalas nai roi fyny yn fuan. A tra dwi'n cofio, welson ni lwyth o dolffins yn Seland Newydd hefyd - ciwt! Dipyn gwahanol i Seland Newydd yma o ran y tirlun a'r tywydd. Y bobl yr un mor laid-back a jokey, ond llawer mwy o bobl ymhobman, teimlo fel bo Sydney a Melbourne efo bron yr un faint o bobl a sy'n Seland Newydd i gyd!

Cael dwrnod gwych heddiw - yr haul yn bendant wedi dod allan i ddathlu fy mhen-blwydd i! Yn Byron Bay, tref fach glan-y-môr hippy-aidd iawn. Traeth lyfli ac eitha gwag felly newydd fod yn torheulo bore ma. Mynd ar y bws am gwpwl o oriau pnawn ma i dref arall ar lan-y-môr - Surfer's Paradise. Wnai roi lluniau fyny heno gobeithio!

2 Comments:

Anonymous Anonymous said...

penblwydd hapus Elin!!!
cariad mawr oddi wrthym yn Rhydychen - Anti Cat, Alex, Owen a Nannon xxxxxxxxxxxxxxx
Edrych ymlaen yn arw at dy weld mis nesa.

2:41 am  
Anonymous Anonymous said...

PEN-BLWYDD HAPUS I TI, PEN BLWYDD HAPUS I TI, PEN BLWYDD HAPUS I ELIN, PEN BLWYDD HAPUS I TI! Ma siwr gei di Ben-Blwydd bythgofiadwy yn Awstralia mwynha!
Cariad Mawr
Mair, Gwenno, Mam a Dad xxxx

5:24 am  

Post a Comment

<< Home