penelin

9.11.2006

Gwlad Thai


Wel, amser am ypdet arall gan bo ni erbyn hyn wedi gadael Thailand ar ol treulio pythefnos gwych yna. Ymlacio yn gyntaf ar ynys oddi ar arfordir dwyrain Thailand - Koh Tao. Ynys dawel iawn efo digon o draethau anghysbell a chyfle i weld digon o bysgod yn y mor. Bwyta bwyd Thai lyfli a dysgu chydig bach o'r iaith efo'r bobl leol hynod o glên! Oedd hi'n cymryd 7 awr mewn cwch i fynd yna ond oedd o'n bendant werth o - paradwys!!

Wedyn fyny i Bangkok oedd ddim yn gymaint o baradwys o gwbl! Ond er gwaetha rhybuddion gan deithwyr eraill pa mor afiach oedd y lle, doedd o ddim gwaeth nag unrhyw ddinas fawr, poeth, stuffy efo pawb yn trio gwerthu pethau i ni. Ond gan ein bod ni yn mynd nol yna er mwyn hedfan allan nethon ni ond aros yna am un noson cyn mynd i Kanchanaburi. Tref fach, ond pont fawr yna dros afon Kwai a llawer o amgueddfeydd yn olrhain hanes erchyll adeiladu'r bont yn ystod yr ail ryfel byd.


I fyny i Ogledd Thailand wedyn i ddinas dlws o'r enw Chiang Mai. O fana ethon ni i trekkio am 3 dwrnod yn y jyngl oedd yn lot o hwyl! Er bo hi wedi glawio am ryw 2 awr bob dydd a bo pawb yn wlyb at eu croen, doedd hi ddim yn oer felly doed neb yn poeni rhyw lawer. Fuon ni yn cysgu mewn huts bach mewn pentrefi yn y mynyddoedd. Ond yr uchafbwynt heb os oedd cael reidio ar gefn eliffant!! Ma nhw'n anifeiliaid anhygoel - mor cwl! Nai drio cael lluniau fyny yn fuan - oedd na hyd yn oed eliffant babi, ond tua 3 mis oed yn cerdded efo ni - mor ciwt!!


Ta waeth, ar ol 3 dwrnod o deithio ar fysys a chychod, da ni bellach yn Laos sydd yn dipyn tlotach na Thailand. Does na ddim banciau yn y wlad na thrydan mewn llawer o'r pentrefi ond ma'r bobl efo'r rhai mwya cyfeillgar da ni wedi cyfarfod ar y daith!