penelin

10.09.2006

Nôl yng Nghymru!

Sori, on i ddim yn meddwl fyse na neb yn darllen hwn mwyach gan bo fi wedi bod mor ddiog a pheidio ypdetio yn ddiweddar! Ond mae'n debyg bo fi'n anghywir ar ôl i fi weld rhywun nos Sadwrn nath ofyn be on i'n neud adre achos bo'r blog yn deud bo fi yn Thailand! Wel, dwi adre ers wthnos. A bellach ma'r teimlad cyffrous o fod nôl yng Nghymru a gweld pawb wedi dod i ben a dwi yn sgint ag yn chwilio am waith!

Oedd y 3 wthnos olaf yn Asia yn wych er bo Gwawr wedi fy ngadael i ar ôl achos bo hi wedi rhedeg allan o arian! Diolch Gwawr! Na, jôc, gath Charlie a fi amser gwych, ond oedd hi yn rhyfedd iawn heb Gwawr. Nath hi fynd adre heb ddweud wrth neb a rhoi sypreis mawr i'w rhieni!!

Ethon ni i Laos a Cambodia oedd yn 2 wlad wahanol ond diddorol iawn. Er bo ni heb gael digon o amser yn yr un o'r 2 wlad mewn gwirionedd, nethon nhw greu argraff fawr arnon ni. Rhaid i mi ddweud mai Laos oedd fy hoff wlad yn ne ddwyrain Asia, yn bennaf achos bo'r tirlun a'r golygfeydd yn anhygoel - llawer o fynyddoedd a choedwigoedd a'r rhan fwyaf o bobl yn byw mewn tai pren ar lan yr afon, a'r afon yn cael ei defnyddio fel y brif ffordd yn y wlad. A roedd y bobl yn hynod o gyfeillgar, a gan bod na gyfraith yn erbyn unrhyw berthynas rhwng person o Laos a thramorwyr doedd na ddim golygfeydd afiach o hen ddynion tew a hyll efo merched asiaidd ifanc a del, fel oedd i weld mewn rhai mannau yn Thailand!!

Er bo Cambodia wedi arfer mwy â thwristiaid, yn bennaf oherwydd y temlau anhygoel yn Angkor Wat, roedd y bobl yr un mor gyfeillgar ond ddim hanner mor swil ag yn Laos! A diddorol ond torcalonnus oedd ymweld a'r amgueddfeydd a'r Killing Fields a chlywed gan bobl oedd yn cofio holl hanes ofnadwy y Khmer Rouge. Ag er ei bod hi yn bwrw glaw yn y cyfnod ethon ni yna, nethon ni fwynhau'r dyddiau olaf ar lan-y-môr yn Ne Cambodia.

Fyddai gobeithio yn gallu rhoi lluniau fyny yn fuan. Unwaith ma'r cyfrifiadur adre (sy'n arafach na'r rhai yn Bolivia!) wedi ei drwsio!