penelin

4.03.2006

Dinas Mexico!

Wel, wedi cyrraedd o'r diwedd! Ar ôl hedfan am 11 awr o Heathrow - sypreis bach neis oedd yn bod ni yn hedfan dros Gymru fach, a hefyd Aberystwyth - oedd na enw Sbaeneg am Aber hefyd ond dwi ddim yn cofio be oedd o yn anffodus! Ta waeth - flight lyfli efo British Airways a sgrin o flaen bob sêt, a bwyd neis - impressive iawn! Wedyn cyrraedd y maes awyr a chal taxi i'r hostel sydd yn lyfli. Er bo ni mewn stafell sy'n cysgu 10 dim ond 3 ohonom ni sydd yna ar y funud. Ma na common room efo teledu mawr a loads o lyfrau a da ni'n gallu mynd ar y wê yma am ddim! A ma na far neis yr olwg yma, ond oedden ni wedi blino gormod efo jet lag i fynd yna neithiwr.

Mae'n debyg mai Dinas Mexico ydy'r brifddinas uchaf yn y byd (siwr bo fi wedi darllen hynna yn rwle - ymddiheuriadau os dio'n anghywir!) felly y cyngor yw i beidio gwneud dim byd sy'n gofyn am ormod o egni yn eich dyddiau cyntaf yno er mwyn dod i arfer efo'r uchder. Dwi'n teimlo'n iawn ar y funud a ninnau wedi bod yma am agos i 20 awr, ond dydy Gwawr na'r Almaenes sy'n rhannu stafell efo ni ddim mor lwcus.

Felly wedi bod yn cerdded rownd y ddinas chydig heddiw (wel, am agos i 5 awr ma'n siwr) - mynd ar goll chydig bach ond cyrraedd yn ôl yn saff, a wedi prynu map fel bo ni'n gallu dod i nabod y lle yn well. Dinas eithaf amrywiol - wedi bod yn farchnad fwya dwi erioed wedi bod ynddi, ar hyd strydoedd bach oedd yn para am byth - hollol ddi-ddiwedd! Gwerthu pob math o bethau, llawer o fwyd, nethon ni ond mentro efo rhyw fath o greision blasus a sôs eitha spicy. Pobl yn edrych yn eitha tlawd yno. Ond mewn ardaloedd eraill, dynion wedi gwisgo yn weddol smart ag yn ceisio gwerthu dvd's, ffonau a pethau technolegol eraill ar ochr y stryd. Llwythi o siopau dillad a sgidiau ar lawer o'r prif strydoedd, ond nethon ni ddim lwyddo i ddod ar draws archfarchnad neu hyd yn oed siop gornel fach yn gwerthu dipyn o fwyd! Ar ôl darllen bod pobl yn gyrru yn wyllt yma, dydy hi ddim mor ddrwg ag on i'n feddwl, ond ma na yn bendant or-ddefnydd o'r corn - bob awr o'r dydd a'r nos!

Am ryw reswm, mae'r amgueddfeydd wedi cau yma ar ddydd Llun felly nethon ni neud nodyn o ambell un fysai'n apelio. Yr ardal hanesyddol neu'r 'Centro Historico' (dwin meddwl mai fel na ma sillafu fo!) sydd i weld y rhan fwyaf diddorol ag yn lwcus dyna lle ma'r hostel, felly gawn ni ddigon o amser i edrych o gwmpas. Yn y cyfamser, rhaid ymarfer dipyn ar y Sbaeneg! Sori, bod na ddim lluniau - tro nesa!

6 Comments:

Blogger cridlyn said...

Dinas uchaf: http://en.wikipedia.org/wiki/Potos%C3%AD

Prifddinas uchaf: http://en.wikipedia.org/wiki/La_Paz

Gobeithio dy fod ti'n joio!

5:37 am  
Anonymous Anonymous said...

Heya, ma'n swnio'n gret! ma'n reit boeth yn fama ar y funud, dim mor boeth a fana ma siwr. Pawb yn deud helo o adra. Mwynhewch! Mair x

9:09 am  
Blogger Elin said...

Hehe - diolch Geraint! Nes i ddarllen ddoe mai La Paz oedd y brifddinas uchaf, so on i'n meddwl swn i'n editio hwn cyn i neb sylwi ond rhy hwyr!!

Helo Mair ag Annes! Diolch am ddarllen! Dwi'n meddwl bo Gwawr wedi updatio erbyn hyn - nai roi link i blog hi pan ma hi'n dangos i fi sut i neud!

7:59 am  
Anonymous Anonymous said...

Helo Elin, pawb wrthi'n darllan y blog yn y gegin ag yn jelys iawn ohona ti gan bod pawb mor brysur efo gwaith!

Fyddwn yn disgwl updates aml ar hwn achos sgenom ni ddim byd gwell i neud na'i ddarllan o - ond hefyd mi ydan ni'n edrych ymlaen i glywed dy hanesion diri.

Pethau sy'n digwydd fan hyn (just i neud chdi'n homesick):

a) Wedi gweld mwy o lygod yn y gegin.
b) Dyfrig wedi mynd i Lundain am y penwythnos felly Nerys yn cael withdrawals!
c) Steph a Max wedi splitio fyny (cofia updatio ar hwn am Neighbours pan tin Awstralia gan bo nw 3 mis on blaenau!)

Ok, fel ti'n gweld ma bywyd yn hynod o brysur a dim llawer i'w reportio - felly ta ta tan toc.

Genod May Street xxxxxxx

7:58 am  
Anonymous Anonymous said...

helo elin
sori am y gogs yn cymryd drosto y sgwennu!! just isie gadel ti wbod bo nerys yn copo yn hollol fine heb dyfrig! (just rhag ofn ot tn meddwl yn wahanol!) gobitho bo hyn heb sboilo street cred fi!

proud iawn bo t di neud ymchwil cyn mynd teithio rownd y byd ynglyn a'r ffaith mai mexico city yw'r dre ucha! good one elin!

anywe, nol ir adolygu!

ps mwy o gossip-ma melin gruffydd yn cymryd drosto eglwys wen!

Nerys

11:52 am  
Blogger Elin said...

Diolch am ddarllen genod/merched May St!! Pob lwc efo´r adolygu, ond ma angen break!

Oedd na lygoden yn yr hostel yn Mexico City hefyd!! Oedd hi fel bod nôl y eich ty chi!

A Nerys - pa street cred?!

8:29 am  

Post a Comment

<< Home