penelin

5.25.2006

Dal yn fyw!!

Wel, wel, ymddiheuriadau lu am beidio sgwennu yma ers sbel - gobeithio bo rhywun yn dal i ddarllen! Ni phoener, ma Gwawr a fi yn dal yn fyw ag yn dal i fwynhau, jest fi sy´n ddiog! Ag yn ddiamynedd efo cyfrifiaduron annoying! Dwi tu ôl hi ar y downloadio lluniau hefyd sori, a rywsut dwi wedi neud rwbeth i´r camera sy´n golygu bo rhai lluniau yn dod allan yn blurry a bo´r haul wir yn llachar, so sori eto - all rywun roi cynnig ar be ma hyn yn golygu a be sydd raid i fi neud i gal o nôl?! Sa´n handi bod yn dechnolegol weithiau!! Ta waeth, ma na loads wedi digwydd yn y mis diwethaf, da ni yn Buenos Aires erbyn hyn, wedi teithio drwy Bolivia a Brazil! Nai drio cofnodi´r prif bethau diddorol sydd wedi digwydd!


Lago Titicaca

Ar ôl gadael Cuzco ethon ni i Puno, tref agos at Bolivia yn edrych allan ar Lago Titicaca sef llyn mwyaf De America ac un o´r uchaf yn y byd y gallwch fynd ar gwch arno(ma popeth yn Bolivia yn ¨yr uchaf yn y byd¨!) Mae un ochr yn perthyn i Peru a´r ochr arall i Bolivia. Yn anffodus dim ond amser i weld ochr Peru gethon ni ag ymweld â´r ynysoedd rheiny. Ethon ni i weld ynysoedd Uros sydd hefyd yn cael eu galw´n ´floating islands´sef ynysoedd bach iawn wedi eu gwneud o wellt sy´n arnofio ar y dwr ag yn symud o gwmpas. Rhyfedd iawn oedd gweld un o´r bobl leol yn gwneud twll yn y llawr a dyna lle oedd y llyn! Ddim y lle delfrydol i fyw os ´di rywun yn seasick, ond oedden nhw i weld yn eithaf hapus, tua 7 teulu yn byw ar bob ynys mewn hut bach yr un. Wedyn tua 3 awr i mewn i ganol y llyn oedd 2 ynys naturiol fawr a nethon ni aros noson ar Ynys Amantani efo teulu lleol. Lle hyfryd, heddychlon iawn gan nad oedd ceir i weld o gwmpas a dim trydan chwaith, dim ond am ychydig oriau´r dydd mae´n debyg. Dim llawer o obaith cyfathrebu efo´r teulu oedden ni´n aros efo nhw llawer efo´n lefel ni o Sbaeneg ar ffaith eu bod nhw yn siarad yr iaith Quechua efoí gilydd, ond oedd o dal yn hwyl, ag oedd na 2 fachgen bach rili ciwt a chwareus yn lle oedden ni´n aros hefyd! Yn y nos gethon ni fynd i ryw fath o ddawns leol a chael gwisg draddodiadol y merched i wisgo gan Celia oedd yn ein dangos ni o gwmpas. Dillad cynnes iawn felly oedden ni braidd yn boeth ar ôl yr holl ddawnsio egniol, a gan fod yr hollol ferched yn dipyn llai na ni oedden ni´n edrych braidd yn awkward!


Alys a La Paz

O Puno wedyn i brifddinas Bolivia - La Paz (y brifddinas uchaf yn y byd - dwi´n iawn tro yma, er mae´n debyg bod Sucre yn rhannu´r teitl o brifddinas Bolivia neu rwbeth - cymysglyd!). Ag mae hi´n dipyn o ddinas hefyd, llawn prysurdeb, pobl a thacsis a bysys yn gyrru yn wyllt. Doedd Gwawr ddim yn rhyw hoff o´r lle gan fod o mor uchel a lot o lygredd yn yr aer yn effeithio ar ei hanadlu, a gath ei phoncho hi ei pick-pocketio (pam?) a gath hi food poisoning! Nethon ni dreulio dipyn o amser efo Frank a Dan, 2 Americanwr oedden ni wedi gyfarfod yn Puno, a nethon ni feicio i lawr ¨The Most Dangerous Road in the World¨, sy´n cael yr enw achos mai dyna´r ffordd ble mae´n mwyaf o farwolaethau´n digwydd y flwyddyn. Ddim yn swnio yn beth call iawn i wneud, ond mae´n llawer mwy peryglus mewn cerbyd nag ar feic achos bo´r ffordd mor gul a serth, ag mae´n debyg bo´r damweiniau´n digwydd yn y nos tra mae gyrrwyr loris yn gyrru ag yfed. Gethon ni brofiad digon saff er i Gwawr ddisgyn spectacularly oddi ar ei beic, pen gymta dros yr handlebars! Yn anffodus iawn on i o´u blaen hi ar y pryd felly nes i ddim gweld, ond cafwyd digon o reconstructions gan bobl oedd wedi!

Y peth mwyaf cyffrous ddigwyddodd i ni yn La Paz fodd bynnag oedd cyfarfod Alys!! I´r rheiny sydd ddim yn nabod Alys, ma hi´n ffrind i fi o´r ysgol sydd wedi bod yn Ne America ers mis Hydref yn gweithio a theithio yn Ecwador, Peru a Bolivia. Oedd o´n grêt ei gweld hi, rhyfedd iawn gweld wyneb mor gyfarwydd mewn lle mor anghyfarwydd! A nethon ni dreulio ein dyddiau yn La Paz efo hi yn siopa a bargeinio am souvenirs (wel, hi mwy na ni gan bo hi wedi casglu tua 3 bag mawr ychwanegol ers cychwyn teithio!), bwyta mewn caffis amheus a chymryd bysys lleol random a gweld lle oedden nhw´n mynd! Lot o hwyl! Trist oedd gorfod ffarwelio efo hi ond oedd hi´n mynd nôl i Ecwador drwy Peru, wedyn i Colombia i dreulio gweddill ei mis a hanner yn sgwennu eu dissertation i coleg. Felly fydd hi nôl yng Nghaerdydd yn fuan i´r rheiny sydd yn ei cholli hi!


Bysys Bolivia!

Un o´r pif broblemau gethon ni yn Bolivia oedd eu bod nhw wedi cychwyn streic bysys ar y cyntaf i Fai oedd i barhau tan Duw a wyr pryd. Oedd o dal ymlaen pan oedden ni´n gadael y wlad 10 diwrnod yn ddiweddarach. Golygodd hyn bo ni yn styc yn La Paz a hirach nag oedden ni wedi bwriadu a methu gneud rhai o´r pethau oedden ni am neud yn Bolivia sef mynd i´r llynnoedd halen yn Uyni. Nethon ni hedfan i Sucre oedd ddim yn rhy ddrud ag yn dref hyfryd, a chyfarfod Berber o'r Iseldiroedd a theithio efo hi am dipyn. O fano gethon ni daxi rhad i Potosi i weld lle oedd y mwyngloddiau arian oedd yn arfer bod yn bwysig iawn tua´r unfed ganrif ar bymtheg ag oedd y dref fwyaf yn Ne America ar y pryd. Oedden nhw yn ddiddorol iawn, er bo´r gwaith wedi sychu fyny llawer, ag oedd y dref yn llawn o Eglwysi Catholig.

Ein bwriad ni wedyn oedd hedfan o Sucre i Santa Cruz ond drwy lwc nethon ni glywed am rhyw fysys lleol oedd yn gadael o gyrion y dref felly nethon ni lwyddo i ddal un o rheiny. Fuon ni yn lwcus iawn dwi´n meddwl, achos pan gyrheuddon ni oedd pobl yn ymladd eu ffordd ar y bws a pan nath na fight go iawn gychwyn nath y bws gychwyn gyrru efo tua 7 o bobl yn hongian oddi arno fo. Nethon ni anobeithio dipyn gan na fysa´n debygol bo ni yn gallu gwthio heibio i ddynion Bolivian blin! Dyna pryd nath rhyw hen ddynes gychwyn siarad efo ni heb i ni ddallt llawer ond ethon ni mewn taxi efo hi a ryw 5 mercha arall, oedden ni yn meddwl bo ni yn mynd yr holl ffordd i Santa Cruz am 15 awr yn y taxi hollol cramped yma, ond yn lwcus ar ôl tua 5 funud nath o stopio a chyrraedd y bws oedd wedi parcio mewn rhyw lay-by lle oedd na jest digon o seti i ni - rhyfedd iawn, ond lwcus!! Nethon ni dreulio´r dwrnod wedyn yn Santa Cruz sy´n dref lot mwy datblygedig na gweddill Bolivia, a wedyn bws am y border gyda Brazil. Nath be oedd i fod i dreulio 15 gymryd 30 a throi alla i fod yn dipyn o hunllef. Nath y bws grasho efo truck oedd ddim wedi troi ei olau ymlaen, yn lwcus nath neb frifo´n ddifrifol heblaw un ddynes ath i´r ysbyty. Ond oedd o´n dipyn o sioc gyda´r plant ar y bws i gyd yn crio, ac roedd raid i ni aros cwpwl o oriau yn yr oerfel am fws arall. A nath hwnnw droi allan i fod yn dipyn o racsyn oedd yn torri lawr bob tua 2 awr, a heb gymaint o seti a´r bws blaenorol felly nath Gwawr a fi dreulio tua 8 awr ar y llawr yn trio cysgu ar ôl cynnig ein seti i ryw gwpwl druan fyddai wedi gorfod treulio 25 awr ar y llawr oni bai am hynny!! Ddim yn hynod o gyfforddus, ag oedden ni´n falch iawn i gyrraedd pen y daith yn Quijarro!!! Ag felly dyna'n cyfnod yn Bolivia wedi dod i ben, a dwi'n meddwl fod Gwawr yn reit falch! Nethon ni ddim llwyddo i neud popeth oedden ni wedi gobeithio, ond nath popeth ychwanegu at y profiad! Mae hi'n un o'r gwledydd tlotaf yn Ne America ac felly yn un o'r rhataf, sy'n dda i ni, ag yn esbonio pam bod na lwythi ar lwythi o deithwyr o'r Israel yna (ma nhw yn cyfaddef hyn en hun!) Ond lle diddorol iawn, swn i'n argymell o i unrhyw un ond gwnewch yn siwr bo gennoch chi stumog gryf!


Brazil - Y Pantanal

Wrth gychwyn teithio, doedden ni ddim wedi bwriadu mynd i Brazil. Yn bennaf achos bo gennon ni ddim amser, ag y bysen ni siwr o fod wedi bod eisiau treulio lot fawr o amser yna, felly oedden ni am fynd yna mewn ar drip arall yn y dyfodol!! Ond gan ein bod ni wedi methu mynd i'r goedwig law yn Bolivia (weler y pennod ar y bysys!), nethon ni benderfynu y bysen ni'n mynd i'r Pantanal, y jyngl yn Ne Brazil, uwchben Paraguy sydd ar y ffordd i Raeadrau Iguazu a'r Ariannin. Oedd cyrraedd Brazil yn grêt ond yn dipyn o sioc, y newid o Bolivia yn amlwg - pawb yn hynod o gyfeillgar a hapus, cerddoriaeth ymhobman a phopeth yn amlwg yn fwy datblygedig. Nethon ni lwyddo i drefnu trip i'r Pantanal yn syth ar ôl cyrraedd a felly teithio 3 awr arall mewn truck i ganol y jyngl. Welson ni lwyth o anifeiliaid ar y ffordd gan gynnwys lot o alligators, ryw lygoden fawr hollol massive - oedd na lwyth ohonyn nhw ymhobman, a lot o adar fel toucan. Oedden ni'n cysgu mewn hammocs mewn hut bach, neu 'alsal' fel oedd ein roomates Israeli yn eu galw nhw - nes i lwyddo i ddysgu tua 10 gair o Hebraeg! Ond oedd hi braidd yn oer yn y nos ag oeddeni methu symud llawer yn yr hammocs. Ond poeth iawn bob dydd felly mynd i nofio yn yr afon (efo'r alligators) a neud amryw bethau eraill fel merlota, mynd mewn cwch a physgota. Ges i dipyn o lwyddiant ar fy nhro cyntaf yn pysgota, yn dal 4 pirhana, tra bo neb arall wedi dal dim - hm, rhyfedd!! Ges i ddim cyfle i ychwanegu at y nifer achos ddath yr alligator ma chydig yn rhy agos ato ni! Yn anffodus, dydyn nhw ddim yn flasus o gwbl, ag on i'n teimlo reit sâl y bore wedyn! Ond heblaw am hynny, gethon ni amser grêt! Oedd y guides i gyd yn glên iawn, ag oedden nhw i gyd wedi cyfarfod lot o dwristiaid a drwy hynny wedi dysgu Saesneg, Hebraeg, Almaeneg ag amryw o ieithoedd eraill - anhygoel! Ond oedd hi'n anodd iawn dallt Portiwge-eg (sori - sut ma silafu hwn?) oedden nhw'n siarad ar ôl dod i arfer gymaint efo Sbaeneg. Oedden ni braidd yn gytud bo ni methu mynd i Sao Paolo a Rio a gweddill yr arfordir ar ôl clywed mor dda ydy nhw gan deithwyr eraill, fydd jest rhaid i ni fynd nôl rhyw ddydd!!!

Reit, hynna'n ddigon o draethu am y tro! Fyddai nôl yn fuan (dwi'n addo!)