penelin

6.06.2006

Iguazu


Er mai byr iawn oedd ein hamser yn Brazil gan bo ni heb fwriadu mynd yna o gwbl, oedden ni wedi clywed gymaint am raeadrau Iguazu sydd ar ffin Brazil, Yr Ariannin a Paraguy, oedd rhaid i ni drio ymweld a nhw yn sydyn. Gethon ni gwmni Almaenes glen o'r enw Andreaar gyfer y rhan yma o'r daith. Oedd hi'n 'chydig hyn na ni, yn cymryd seibiant o'i swydd fel optegydd. Ac oedd hi'n llawn cyngor ar ein cyfer ni achos ei bod hi bron a chyrraedd pen ei thaith ar ol (sori, dim to bach ar y cyfrifiadur yma!) bod yn teithio am flwyddyn, ac wedi bod i ran fwyaf o'r gwledydd 'dy ni'n mynd iddyn nhw - handi iawn!

Gan bo'r rhaeadrau ar y ffin, mae modd ymweld a nhw o ochr Brazil a'r Ariannin a gan bod na olygfa eitha gwahanol o'r 2 nethon ni benderfynu gwneud y 2. Profiad hollol anhygoel gan eu bod nhw mor fawr a bod na gymaint i weld. Allwch chi dreulio oriau jest yn syllu arnyn nhw. Mae na lawer mwy i weld o ochr Yr Ariannin (tua 250 o raeadrau i gyd) - ond mae'n bendant werth eu gweld o ochr y 2 wlad. Gethon ni tip bach gan ryw fechgyn oedden ni wedi cyfarfodtua wythnos cynt am le cudd lle oedd llwyth o raeadrau a dim pobl yna am bod neb yn gwybod am y lle. Oedd hwnna'n gret - fel paradwys personnol i ni, er doedd na ddim gymaint a hynny o bobl yna gan bo hi'n tynnu am eu gaeaf nhw. Ond oedd hi dal yn ddigon cynnes i nofio yn yr afon yna, wel falle mai nid cynnes 'di'r gair, ond cynhesach na'r mor yng Nghymru yn yr haf!

6 Comments:

Blogger Elin said...

Hehe, sori Gwens! Dylsa fi checkio drwy'n stuff i cyn pwyso'r botwm publish - ond mynadd!

7:31 pm  
Anonymous Anonymous said...

Heb fod i weld y gemau Cymru a'r Ariannin o gwbl te?!

O'n nhw'n chware yn Puerto Madrin dydd Sul, on ni'n meddwl amdanach chi a ble byddech chi!!

10:31 am  
Blogger Elin said...

Na, ddim gemau rygbi i ni yn anffodus! Er falle ddim o weld y sgôr! Ond oedd pawb yn y Gaiman yn excited iawn ar gyfer y gêm a nethon ni gyfarfod Billy oedd yn canu´r 2 anthem ar ddechrau´r gêm.

Oedden ni´n abseilio tra oedd y gêm mlaen ond welson ni fo y noson wedyn yn yr Irish Pub yn Mendoza - trusty Irish Pub i gael ymhobman!

Pwy sy yna gyda llaw? Ti´n dod fyny fel ´usario anonimo´.

5:25 pm  
Anonymous Anonymous said...

Helo elin a gwawr, dim yn siwr os dwin gadael neges yn y lle iawn ond eniwe... sud ydachi? mar llyn na or rhaeadr yn edrych yn hollol anhygoel, gaethochi weld y Favelas yn Brazil? lle dachi off i wan?

6:03 am  
Anonymous Anonymous said...

Sori - fi, Caryl nath sgwennu'r neges yna - dylse t d dyfalu a fi'n siarad am rugby! hehe

10:13 am  
Blogger Elin said...

Hehe, wel on i'n meddwl mai unai ti neu Ffion oedd yna Caryl!!

Hia GP! Sori methu mynd ar aber2002 am ryw reswm a dwi ddim yn meddwl bo genai dy e-bost di felly nai ddymuno pen-blwydd hapus iawn i ti yn fama! Ti'n dechrau actio dy oed eto?!

Gethon ni ddim amser i neud dim byd arall yn Brazil heblaw mynd i'r jyngl a'r rhaeadrau. Anffodus iawn bo ni heb gael mynd i'r favelas - trip tro nesa! Mae'n debyg bo nhw'n neud guided tours o'r favelas! A bo'r guides yn rhoi pres i'r gang leaders er mwyn sycrhau diogelwch y twristiaid! Diddorol!!

10:11 pm  

Post a Comment

<< Home