penelin

6.14.2006

Buenos Aires

Taith 20 awr oedd yn ein disgwyl ar ôl Iguazu er mwyn cyrraedd y brifddinas, Buenos Aires. Er bo hyn ddim yn swnio´n rhy bleserus, dwi´n eitha hoff o fysys ar y cyfan (heblaw yn Bolivia!), oedd hon yn un o´r teithiau bysys gorau - bwyd lyfli, gwin, ffilmiau, fleece blanket a digonedd o le i blygu´r gadair nôl fel gwely! Rhywbeth felma sydd angen i drawsnewid y Traws Cambrian!

Ta waeth, gethon ni wthnos wych yn Buenos Aires, dipyn o ymlacio achos ein bod ni´n teimlo fel ein bod ni wedi bod yn teithio´n ddi-ddiwedd ers sbel. Lot o fwyta steaks a gwin rhad, a dipyn o siopa, ond dim gormod gan fod gennon ni ddim llawer o le yn ein bagiau i gario lot mwy! Dipyn o newid i gyrraedd y ddinas gan ei bod hi yn llawer mwy datblygedig na phobman arall da ni di bod iddo mor belled yn Ne America. Teimlad eitha Ewropeaidd i´r lle a Gwawr a fi yn teimlo dipyn fel tramps am fod lot o´r bobl leol mewn rhai ardaloedd yn gwisgo´n smart iawn. Mae na ardaloedd di-freintiedig yno hefyd wrth gwrs ond dydyn nhw ddim hanner mor amlwg ag yn Peru a Bolivia.

Mae yna ddigon i weld yna hefyd, ac yn ffodus i ni oedden ni yn rhannu stafell efo Sbaenwr o´r enw Carlos oedd yn dipyn o gymeriad ac yn ffansio ei hun fel arbenigwr ar Buenos Aires! Er i ni gael dipyn o sioc bod yna gymaint o bobl yn gallu siarad ychydig o Saesneg yna, oedd hi´n ddefnyddiol cael rhywun efo ni oedd yn siarad Sbaeneg. Ond er gwaetha hynny, cafwyd rhai sefyllfaoedd penblethus gan fod Sbaeneg Sbaen a´r Ariannin (sy´n cael ei alw´n Castellano) yn eitha gwahanol, a doedd Carlos na´r waiter mewn un bwyty ddim yn deall ei gilydd o gwbl, ond yn ffodus i Gwawr ddath y steak yn raw beth bynnag!

Oedden ni wedi cyfarfod Carlos cynt yn Iguazu, felly ´chydig o gyd-ddigwyddid oedd bo ni´n rhannu´r un stafell a fo yn yr un hostel allan o´r cannoedd sydd yn Buenos Aires. Ond roedd yr hostel yna´n llawn o gyd-ddigwyddiadau rhyfedd. ´Nath 2 berson arall oedd yn yr un stafell a ni oedd ddim yn nabod ei gilydd sylweddoli eu bod nhw´n byw rownd y gornel i´w gilydd yn Llundain. Nath un o´r staff gynhyrfu wrth glywed bo ni o Gymru a dechrau sôn a ryw fechgyn o Gymru oedd wedi bod yn ei e-bostio hi ag yn dod i aros i´r hostel ym mis Mehefin - un o rheiny yn troi allan i fod yn Ifan sy´n byw efo Poj. Ag yn fwy cyffrous na dim nethon ni gyfarfod y person cyntaf yn siarad Cymraeg (ddim yn cyfri Alys). Nia oedd ei henw hi o Ddinbych ac roedd hi´n rhannu stafell efo ni hefyd, ag fel mae´n digwydd ma hi´n byw drws nesa i chwaer Nain Gwawr! Byd bach - mundo pequeño!

Hm, be arall nethon ni - gweld bedd Evita; mynd i´r clwb nos mwya dwi ´rioed wedi bod iddo (y dywediad ´quality not quantity´yn dod i´r meddwl) tan iddi wawrio; a gweld y Da Vinci Code yn y sinema (ddim cystal a´r llyfr a diwedd siomedig). O, a nath Gwawr gael torri ei gwallt a chael sbectols newydd - bydd lluniau o´r ´new look´ i´w gweld yn fuan!

0 Comments:

Post a Comment

<< Home